Ydych chi am chwarae eich rhan yng Nghyfrifiad 2021? Mae ein swyddogion yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y cyfrifiad. Mae hyn yn cynnwys ymweld ag eiddo gwahanol mewn ardal benodol, a hynny sawl gwaith weithiau. Y nod yw gwneud pobl yn ymwybodol o’r rheswm pam mae’r cyfrifiad yn bwysig a darparu gwybodaeth sy’n sicrhau bod ein cofrestr o gyfeiriadau yn gyfredol.
Fel swyddog symudol y cyfrifiad, mewn ardal benodol, byddwch yn rhan o dîm o hyd at 12 o swyddogion y cyfrifiad, a byddwch yn atebol i arweinydd tîm y cyfrifiad. Prif ddiben eich rôl fydd annog y bobl yn eich ardal i gwblhau holiadur ar-lein Cyfrifiad 2021. Byddwch yn cael llwyth gwaith dyddiol o gyfeiriadau nad ydynt wedi cyflwyno holiadur y cyfrifiad eto, a bydd angen cynnal ymweliad dilynol i’w cefnogi a’u hannog i’w gwblhau. Byddwch yn helpu preswylwyr i ddeall pwysigrwydd y cyfrifiad, a’r rôl hanfodol sydd ganddynt i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Byddwch yn eu helpu i oresgyn unrhyw wrthwynebiadau neu rwystrau a allai fod ganddynt sy’n eu hatal rhag ei gwblhau, gan eu helpu eich hun neu eu cyfeirio at gymorth sydd ar gael. Byddwch yn cynorthwyo pobl i gwblhau eu holiaduron, naill ai ar garreg y drws neu mewn digwyddiadau cwblhau. Byddwch yn gweithio gyda rheolwyr ymgysylltu’r cyfrifiad i gefnogi ymgysylltiad ehangach mewn digwyddiadau cymunedol yn ôl yr angen.
Diben
- cynyddu cyfraddau ymateb y cyfrifiad
- datblygu enw da’r cyfrifiad