Eisiau gyrfa gwobreuol?
Yn awyddus i helpu eraill?
Eisiau swydd mwy amrywiol lle does dim dau ddiwrnod yr un peth?
Mae Gofalwn Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant a denu mwy o bobl gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal gyda phlant ac oedolion.
Os oes gennych chi ymagwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna all gyrfa mewn gofal fod yn berffaith i chi. Ar gyfer y rhan fwyaf o rolau gallwch dderbyn unrhyw hyfforddiant ac ennill unrhyw gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi tra’n gweithio. Mae pob math o ffyrdd o weithio’n hyblyg, felly gallwch drefnu gofalu am bobl o’ch cwmpas chi a’ch teulu.
Gyda dros 65 o rolau gwahanol yn dod o dan yr ymbarél gofal cymdeithasol, mae amrywiaeth eang o gyfleon ar gael. Yn amrywio o weithwyr cartrefi preswyl, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cymdeithasol mae na rôl at ddant pawb! O alluogi unigolion i fyw eu bywydau o ddydd i ddydd yn well, adeiladu cyfeillgarwch, helpu unigolion i deimlo’n rhan o’u cymunedau – mae’n sector a’n yrfa prysur ond mae’r boddhad yn ddi-ddiwedd!
Yndi mai’n anodd dechrau gyrfa newydd, ond ‘di byth rhy gynnar a’n sicr byth rhy hwyr i ddechrau eich llwybr gyrfa newydd! Dewch draw i adran adnoddau ein tudalen i glywed hanes rheiny sydd wedi mentro i fyd Gofal cymdeithasol yn barod ac i glywed eu hanesion.
I’r bobl iawn, mae’n un o’r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil yn y byd. Ymunwch efo ni i ddysgu mwy am y swyddi ar gael yn gweithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru.
Do you want a rewarding career?
Are you eager to help people?
Do you want a more varied job where no two days are ever the same?
WeCare Wales aims to raise awareness and understanding of social care, early years and childcare and attract more people with the right skills and values to work in caring roles with either children or adults.
If you have a positive can do attitude and if you like working with people and have the commitment to care for others, then working in Social care could be perfect for you. For most roles you can gain any training and qualifications you need on the job. There are lots of ways to work flexibly, so you can fit caring for people around you and your family.
With over 65 different roles under the social care umbrella, there is a variety of roles to choose from. Varying from residential home workers, occupational therapists and social workers there is something for everyone. From enabling people to live their day to day lives better, building friendships, helping people stay connected with their communities – it’s a very busy but rewarding sector and career to be a part of!
Yes starting a new career is scary, but it’s never too early and never too late to start your career journey! Hop on over to our resources section of our page to hear from people that have made the leap into Social care and to hear more about their stories.
For the right people, it’s one of the most rewarding careers there is. Join us to learn more about the jobs available in working with children and adults in Wales.