Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni’r cylch gwaith a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oedran yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw y dylai pob person ifanc allu symud yn rhwydd ac yn llwyddiannus i mewn i waith ac y dylai oedolion gael eu hysbrydoli i fod yn gyfrifol am eu gyrfaoedd.
A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr STEM er mwyn helpu i ganfod sut y gallant ymgysylltu â’r byd addysg a chodi ymwybyddiaeth dysgwyr o natur newidiol y byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael o fewn y maes STEM?
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn creu, yn sefydlu ac yn cynnal cysylltiadau cadarnhaol â rhwydwaith o gyflogwyr a’u cyrff proffesiynol i gefnogi’r broses o gyflwyno gwasanaethau cysylltu â chyflogwyr i ysgolion ar draws Gogledd-orllewin Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio gyda llwyth achosion cyfranogwyr Blwyddyn 7-13 ym mhob ysgol i godi eu hymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sy’n codi o fewn y maes STEM.
Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
am fwy o wybodaeth cliciwch yma nawr!