Ydych chi am chwarae eich rhan yng Nghyfrifiad 2021? Mae ein swyddogion yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y cyfrifiad. Mae hyn yn cynnwys ymweld ag eiddo gwahanol mewn ardal benodol, a hynny sawl gwaith weithiau. Y nod yw gwneud pobl yn ymwybodol o’r rheswm pam mae’r cyfrifiad yn bwysig a darparu gwybodaeth sy’n sicrhau bod ein cofrestr o gyfeiriadau yn gyfredol.
Fel wyneb cyfeillgar y cyfrifiad, mae’n bwysig eich bod yn gallu ymgysylltu â phobl o bob cefndir. Byddwch yn mwynhau bod yn rhan o dîm agos a chefnogol. Byddwch hefyd yn gwybod sut i ddefnyddio ffonau clyfar ac yn gallu gweithio oriau hyblyg. Rydych hefyd yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol, yn wydn ac mae gennych fynediad dibynadwy i drafnidiaeth. Gallai iaith wahanol fod yn ddefnyddiol. Y naill ffordd neu’r llall, mae gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i feithrin ymddiriedaeth. Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn dilyn ein prosesau ac yn cadw’r wybodaeth rydych yn ei chasglu yn gyfrinachol ac yn ddiogel.
Diben
- cynyddu cyfraddau ymateb y cyfrifiad
- datblygu enw da’r cyfrifiad
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma